Demetrius Poliorcetes | |
---|---|
Ganwyd | 336 CC, 337 CC |
Bu farw | 283 CC Apamea |
Dinasyddiaeth | Macedon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | brenin |
Tad | Antigonos I Monophthalmos |
Mam | Stratonice |
Priod | Ptolémaïs, Phila, Eurydice of Athens, Deidamia I of Epirus, Lanassa |
Partner | Lamia of Athens, Demo |
Plant | Demetrius the Fair, Antigonus II Gonatas, Stratonice of Syria, Demetrius, Alexander, Corragus, Phila |
Llinach | Antigonid dynasty |
Cadfridog Macedonaidd a ddaeth yn frenin Macedonia oedd Demetrius Poliorcetes (337-283 CC, Groeg: Δημήτριος Πολιορκητής). Roedd yn fab i Antigonos I Monophthalmos, un o'r Diadochi, olynwyr Alecsander Fawr.
Yn 307 CC, arweiniodd fyddin tuag Athen, a gorfodi Demetrius Phalereus, unben Athen, i ffoi i Alexandria. Ail-sefydlodd Demetrius hen gyfansoddiad Athen, a barodd i'r dinasyddion ei gyfarch ef a'i dad fel theoi soteres, "gwaredwyr dwyfol". Yn 306 CC, gorchfygodd Menelaus, brawd Ptolemi I Soter, brenin yr Aifft, ym Mrwydr Salamis ger arfordir Cyprus, gan adael ei dad, Antigonos, yn feistr ar ran ddwyreinol y Môr Canoldir a'r Dwyrain Canol heblaw Babylonia. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin Asia Leiaf a gogledd Syria, ac enwodd Demetrius yn gyd-frenin.
Yn 305 CC, bu Demetrius yn gwarchae ar ddinas Rhodos, oedd wedi gwrthod cynorthwyo Antigonos yn erbyn Ptolemi I Soter. Enillodd Demetrius yr enw "Poliorcetes" ("y gwarchaewr dinasoedd") am ei ymdrechion, oedd yn cynnwys adeiladu tŵr gwarchae 40 medr o daldra ac 20 medr o led, a elwid yn "Helepolis" ("Y cipiwr dinasoedd"), ond er gwarchae ar y ddinas am flwyddyn, ni allodd ei chipio.
Ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC, gorchfygwyd byddin Antigonos a Demetrius gan fyddin Lysimachus a Seleucus I Nicator, oedd wedi gwneud cynghrair yn eu herbyn, a lladdwyd Antigonus yn y frwydr. Bu raid i Demetrius ffoi, ond yn 297 CC, cafodd Alexander V, brenin Macedonia ei ddiorseddu gan ei frawd Antipater II. Troes Alexander at Demetrius Poliorcetes am gymorth, ond gwnaeth Demetrius ei hun yn frenin Macedonia, a llofruddiodd Alexander V.